AWDPRG December newsletter 2020 Welsh
Cyfarchion y Tymor i chi gan
GRŴP
CYFEIRIOL CLEIFION DIABETES CYMRU GYFAN |
NEWYDDLEN I BOBL SY’N BYW GYDA DIABETES |Rhifyn Rhagfyr 2020. Cyfarchion
y Tymor Gobeithio
eich bod yn cadw’n iawn Mae eleni
wedi bod yn flwyddyn heriol i bob un ohonom sy’n byw gyda Diabetes yn ystod
Pandemig Covid 19 Wrth i’r
Nadolig agosáu, rydym yn edrych ymlaen at dreulio rhywfaint o amser gyda’n teuluoedd,
a hynny am y tro cyntaf ers tro o bosibl. Rydym yn
cofio am yr holl Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sydd wedi gweithio’n
ddiflino i ofalu am bobl gyda Covid 19 ac sydd wedi darparu Gofal Diabetes i
ni ar yr un pryd yn y cyfnod heriol hwn. Rydym wedi
derbyn gofal mewn ffyrdd gwahanol iawn i’r arfer hefyd. Rydym yn
cofio hefyd am yr holl weithwyr Gofal Cymdeithasol sy’n darparu gofal mewn
Cartrefi Nyrsio a Phreswyl a’r rheini sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl. Cofiwn
hefyd am ofalwyr sy’n gofalu am aelodau’r teulu bob dydd, drwy’r flwyddyn. Gobeithio
bydd yr holl Blant â diabetes a’u teuluoedd yn cael Nadolig llawen iawn ac y
bydd Siôn Corn yn dod â’r holl anrhegion ar eu rhestr. Hoffwn
ddymuno Cyfarchion y Tymor i chi a’ch teuluoedd gan ddymuno Blwyddyn Newydd
Dda ac iach i chi yn 2021. Arhoswch yn
ddiogel Wendy Gane
MBE Cadeirydd AWDPRG |
Mae rhai
gwasanaethau diabetes wedi cael eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Mae’r
wybodaeth ganlynol yn cynnig awgrymiadau am sut i ofalu amdanoch eich hun ar yr
adeg hwn.
Gofalu amdanoch
eich hun Gofalwch am eich iechyd
drwy gymryd eich meddygyniaethau arferol, dilyn deiet iach ac ymarfer corff
yn rheolaidd os yn bosibl – dyma’r pethau pwysicaf i ofalu am eich iechyd. Ewch ati i leihau eich risg o ddal
haint COVID-19 drwy ddilyn y rheolau lleol. Golchwch eich dwylo
yn rheolaidd, cadwch bellter cymdeithasol a gwisgwch fwgwd. (gweler diabetes.org.uk/coronavirus
i gael rhagor o arweiniad) Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y
brechiad ffliw AM DDIM Mae hyn yn bwysig
iawn i’ch amddiffyn rhag ffliw ar adeg pan mae COVID-19 yn risg iechyd hefyd. Gall eich meddygfa
leol drefnu’r brechiad hwn. Mae’n gyfnod o
straen a gorbryder ac mae adnoddau ar gael i’ch helpu ar y wefan hon: This
Food Factsheet is a public service of The British Dietetic Association
(BDA) intended for information only. It is
not a substitute for proper medical diagnosis or dietary advice given by
a dietitian. If you need to see a
dietitian, visit your GP for a referral or: www.freelancedietitians.org
for a private dietitian. To check your dietitian
is registered check www.hcpc-uk.org www.diabetespsychologymatters.com Math 2 - Cyflwyniad
i’r Gymuned BAME Mae llinell gymorth BAME Cymru ar
agor: Llun - Gwener 10:30am - 2:30pm Rhif ffôn 0300 2225720 Testun 07537432416 |
Gofyn am Gymorth Mae’n bwysig gwybod
pryd i ofyn am gymorth a gyda phwy y dylech gysylltu. Mae gwasanaethau
gofal cynradd ac eilaidd ar gael i’r rhai sydd eu hangen, ac mae newidiadau
wedi’u cyflwyno i wneud y cyfan yn ddiogel. Cyswllt Lleol. Gofynnwch am gymorth
drwy ffonio’r rhif cyswllt hwn: os yw eich lefelau
glwcos yn uwch am gyfnod hir os ydych yn cael hypoglycaemia
cyson neu rheolaidd (lefelau glwcos o dan 4mmol/l.) os ydych yn
ystyried beichiogi neu rydych yn feichiog ac rydych yn ansicr beth ddylech ei
wneud ynglŷn â’ch meddyginiaeth diabetes. Gofynnwch am
Gymorth Brys os
ydych: yn chwydu neu ddim yn gallu bwyta yn teimlo’n sâl yn teimlo’n gysglyd neu’n colli eich gwynt yn cael poenau yn yr abdomen neu
mae lefel eich cetonau yn uchel Cysylltwch â’ch
meddyg teulu, NHS111 neu mewn argyfwng ffoniwch 999 |
Defnyddio cyfeiriadau gwefannau
This Food Factsheet is a public service of The
British Dietetic Association (BDA) intended for information only. It is not a substitute for proper medical
diagnosis or dietary advice given by a dietitian. If you need to see a dietitian, visit your GP for a referral or:
www.freelancedietitians.org for a private dietitian. To check your dietitian
is registered check www.hcpc-uk.org
wybodaeth ar y rhyngrwyd. Dilynwch y
camau hyn i ddod o hyd i’r tudalennau ar y we.
Ewch i dudalen cartref eich rhyngrwyd (Google
Chrome, e- explorer, Microsoft Edge, Safari)
Teipiwch
gyfeiriad y wefan (yn union fel y cafodd ei ysgrifennu) Gwasgwch "enter"
ar eich bysellfwrdd
COFIWCH, mae eich awdurdod
lleol yna i’ch helpu hefyd
Mae
enghreifftiau yn cynnwys; siopa am fwyd, casglu meddyginiaethau neu gymorth gan
grwpiau gwirfoddol.
Mae
rhestr o rifau ffôn yr awdurdodau lleol ynghlwm.
Gweler gwefan Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/cymorth-i-bobl-agored-i-niwed-gan-awdurdodau-lleol-grwpiau-gwirfoddol
Gofalu am
eich llygaid
Mae Gwasanaeth Sgrinio Llygaid
Diabetig Cymru (DESW) yn ailddechrau.
Os
ydych yn poeni am eich golwg, cysylltwch naill ai gyda’ch meddyg teulu, eich
optegydd neu’r uned frys gofal llygaid leol
This Food Factsheet is a public service of The
British Dietetic Association (BDA) intended for information only. It is not a substitute for proper medical
diagnosis or dietary advice given by a dietitian. If you need to see a dietitian, visit your GP for a referral or:
www.freelancedietitians.org for a private dietitian. To check your dietitian
is registered check www.hcpc-uk.org
Ffilmiau Pocket Medic
Ffilmiau
byrion wedi’u cynhyrchu yng Nghymru gan bobl â diabetes a’u gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol. Maent yn cynnig cymorth gyda gwahanol agweddau ar eich diabetes.
This Food Factsheet is a public service of The
British Dietetic Association (BDA) intended for information only. It is not a substitute for proper medical
diagnosis or dietary advice given by a dietitian. If you need to see a dietitian, visit your GP for a referral or:
www.freelancedietitians.org for a private dietitian. To check your dietitian
is registered check www.hcpc-uk.org
Plant
yn eu Harddegau Math 1 www.medic.video/cv-t1teen
Diabetes Math 2 www.medic.video/cv-type2
Diabetes Beichiogrwydd www.medic.video/cv-gest
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi brechu COVID-19 y DU.
Cyhoeddwyd
ar 2il Rhagfyr bod brechlyn Pfizer-BioNTech wedi cael ei
gymeradwyo ac y bydd
yn cael ei ddosbarthu ar draws y DU.
Mae’r
brechlyn yn ymddangos yn ddiogel ac yn effeithiol, a doedd dim
arsylwadau clinigol yn ymwneud â diogelwch yn
peri pryder. Mae’r data yn dangos ei fod yn effeithiol iawn ym mhob grŵp oedran
(16
oed a
throsodd), gan gynnwys canlyniadau addawol ymhlith oedolion hŷn.
Er bod rhywfaint o
dystiolaeth yn dangos bod un dos o’r brechlyn yn cynnig lefelau uchel o
amddiffyniad yn y tymor byr, y cyngor ar hyn o bryd yw y dylid rhoi dau ddos
o’r brechlyn yn unol â chymeradwyaeth y rheoleiddwyr.
Grwpiau blaenoriaeth
ar gyfer derbyn y brechlyn: cyngor ar 2 Rhagfyr 2020
Nid yw’n bosibl rhoi’r brechlyn i bawb ar yr
un pryd felly mae rhestr flaenoriaeth o grwpiau wedi cael ei llunio fel y nodir
isod:
1 Oedolion hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a
gweithwyr cartrefi gofal
2 Pawb 80
oed a throsodd
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng
flaen
3 Pawb 75 oed a throsodd
4 Pawb 70 oed a throsodd
Unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol *
5 Pawb 65
oed a throsodd
6
Pawb
rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy’n eu rhoi mewn mwy o
berygl o glefyd difrifol a marwolaeth
7
Pawb 60 oed a throsodd
8 Pawb 55 oed a throsodd
9
Pawb 50 oed a throsodd
·
Nid yw’r cyngor
hwn ynglŷn â brechu yn cynnwys menywod beichiog a phlant o dan 16 oed (gweler
uchod)
Brechlynnau eraill sy’n cael eu datblygu
Mae brechlynnau COVID-19 eraill yn cael eu
datblygu, ac mae rhai wedi cyrraedd camau olaf y treialon. Pan fydd data
digonol ar ddiogelwch ac effeithlonrwydd y brechlynnau ar gael, bydd y rhain yn
cael eu hystyried a bydd y manylion uchod yn cael eu diweddaru.
Beth am roi cynnig ar rawnfwydydd
brecwast, uwd, bara/rholiau grawn cyflawn, myffins, sgons, torth frag, torth
gyrains a bagels sy’n ffynonellau egni da i’ch helpu i ymdopi â bore prysur ac
maent yn isel mewn braster hefyd. Dewiswch fathau grawn cyflawn lle bo’n bosibl
i sicrhau eich bod yn bwyta digon o ffibr i’ch llenwi, felly byddwch yn llai
tebygol o fwyta byrbrydau yn ystod y bore. Ychwanegwch ffrwythau i gyrraedd
eich targed 5 y dydd, e.e. ffrwythau sitrws fel satsumas a clementines, neu
stiw afalau neu afalau pôb gyda datys, ffigys neu lugaeron ffres/ sych. Gallech
ychwanegu gwydr bach 150ml o sudd ffrwythau neu smwddi ffrwythau ffres. Mae madarch
neu domatos wedi’u grilio yn flasus ar dôst neu mewn omlet ac mae ffa pôb hefyd
yn cyfrif fel un o’ch 5 y dydd! Mae ffrwythau a llysiau yn cynnwys llawer o
fitaminau a gallech roi iogwrt neu laeth braster isel (neu ddewisiadau heb
laeth sydd wedi’u cyfnerthu â chalsiwm e.e., llaeth soia neu gnau coco) ar
rawnfwyd, eu defnyddio i wneud uwd, neu eu hychwanegu at smwddi i roi calsiwm
ar gyfer dannedd ac esgyrn cryf.
Cinio Nadolig
Cwrs cyntaf Beth am roi cynnig ar eog mwg, sy’n
cynnwys llawer o asidau brasterog omega-3, sy’n hollbwysig i gadw eich calon yn
iach; melon neu gawl llysiau er mwyn cyrraedd eich targed 5 y dydd.
Prif gwrs Mae twrci yn isel mewn braster ac yn
uchel mewn protein (sy’n helpu eich corff i dyfu ac atgyweirio ei hun) felly
mwynhewch. Mae llawer o’r braster yn y twrci o dan/yn y croen. Beth am dynnu’r
croen cyn i chi fwyta’r cig? Mae darn o eog hefyd yn ddewis blasus yn lle cig. Os
ydych yn llysieuwr beth am greu pryd o lysiau rhost gan ychwanegu cnau, hadau,
ffa neu godlysiau i roi protein.
Y trimins i gyd:
Tatws
rhost Defnyddiwch
olew llysiau annirlawn fel olew hadau rêp neu olew blodau haul yn hytrach na
saim gwydd neu lard; beth am chwistrellu neu frwshio’r olew er mwyn gwneud i
lai o fraster fynd yn bellach a rhostiwch y tatws ar hambwrdd ‘dim glynu’/ffoil.
Torrwch y tatws yn ddarnau mawr a fydd yn amsugno llai o fraster na darnau llai.
Bwytwch
ddigon o lysiau Ceisiwch orchuddio
o leiaf traean o’ch plât ag amrywiaeth o lysiau, fel ysgewyll heb fenyn, pys a
moron sydd oll yn cynnwys llawer o fitaminau, mwynau a ffibr a fydd yn eich amddiffyn
rhag clefyd y galon a chanser. Coginiwch am gyn lleied o amser â phosibl gan
ddefnyddio cyn lleied o ddŵr â phosibl, neu stemiwch/coginiwch y llysiau mewn popty microdon i
gadw’r holl faetholion. Cyn belled nad ydych yn eu gorchuddio â menyn neu
unrhyw sbreds brasterog eraill, mae llysiau yn isel mewn calorïau a braster ac
yn cyfrannu at eich 5 y dydd.
Grefi,
stwffin a sawsiau Defnyddiwch
stwffin sy’n cynnwys cnau castan a/neu ffrwythau a gwnewch saws bara gan
ddefnyddio llaeth braster isel. Pan fyddwch yn gwneud grefi beth am
ddefnyddio’r dŵr sydd dros ben ar ôl berwi eich llysiau? Os ydych yn defnyddio’r
suddion o’r cig, gadewch i’r braster godi i’r arwyneb, cyn ei dynnu a
defnyddio’r suddion sy’n weddill.
Selsig
mewn cig moch Os byddwch yn
cael eich temtio i’w bwyta, beth am eu grilio neu eu rhostio gyda’ch cig yn
hytrach na’u ffrio felly gallwch daflu’r braster ychwanegol.
Pwdin
Mae pwdin Nadolig yn llawn
ffrwythau ac yn eithaf isel mewn braster, felly gweinwch gyda chwstard braster
isel neu crème fraiche. Gallech hefyd baratoi salad ffrwythau ffres a’i weini
gydag iogwrt plaen. Mae mins peis wedi’u gwneud gyda thoes ffilo yr un mor
flasus â mins peis arferol, ond mae llai o does yn golygu llai o fraster!
Caws a chracyrs
Mae caws yn
hufennog felly does dim angen menyn arnoch, ac mae caws cryf yn golygu y
gallwch fwyta llai ohono. Mae dewisiadau braster isel yn cynnwys caws Edam, caws
gafr, camembert neu gaws glas o Denmarc. Dewiswch gracyrs grawn cyflawn neu
fara ceirch.
Yn amlach na pheidio, y pethau bach
ychwanegol sy’n cynnwys y calorïau ... Alcohol
Cofiwch fod
diodydd yn cynnwys calorïau hefyd. Beth am yfed diodydd alcoholaidd a diodydd
di-alcohol am yn ail (cofiwch os ydych yn yfed diodydd pefriog, dewiswch y
mathau heb siwgr neu ‘ddeiet’), neu yn well fyth, beth am gynnig gyrru a
pheidio ag yfed alcohol. Beth am yfed dŵr pefriog gan ychwanegu darn neu ddau o
ffrwythau tymhorol, neu beth am gynhesu sudd afal heb siwgr gyda sbeisys i greu
diod gynnes ddi-alcohol. Dylech gael jwg o ddŵr ar y bwrdd bwyd bob amser.
Byrbrydau Gan fod llawer o fyrbrydau blasus ar gael
dros y Nadolig, mae’n hawdd iawn gorfwyta. Felly, beth am geisio cadw’r
danteithion o’r golwg a gwneud yn siŵr fod gennych ddewisiadau iach wrth law.
Yn bennaf oll, mwynhewch eich hun!
A chofiwch
bydd symud o gwmpas yn eich helpu chi i losgi’r holl galorïau ychwanegol. Beth
am ddawnsio o amgylch y goeden, neu lapiwch yn gynnes ac ewch am dro ar ôl eich
cinio Nadolig.
Crynodeb Mae’r Nadolig yn amser gwych i wledda,
yfed a mwynhau – ond bydd dilyn y cynghorion hyn yn eich helpu i fwynhau heb
orwneud pethau. Ar ôl eich prif bryd, ewch am dro i losgi’r calorïau o’r holl
ddanteithion ychwanegol nad oeddech yn gallu eu gwrthod.
Mae’r Daflen Ffeithiau Bwyd hon yn cael ei darparu fel
gwasanaeth cyhoeddus gan y Gymdeithas Ddeietegol Brydeinig (BDA) a’r bwriad yw
rhoi gwybodaeth yn unig. Ni ddylai gael ei defnyddio yn lle diagnosis meddygol
cywir neu gyngor deietegol gan ddeietegydd. Os oes angen i chi weld deietegydd,
cysylltwch â Nyrs Deietegol Arbenigol neu eich meddyg teulu i gael atgyfeiriad.
Cadeirydd
Grŵp Cyfeiriol Cymru Gyfan Ms. Wendy Gane MBE Dirprwy Gadeirydd Mr Rob Lee Golygydd
y Newyddlen Mrs Yvonne Johns |
|
Comments
Post a Comment